Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd

  • Search this websiteSearch Site
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • School Gateway School Gateway

Neges gan y Pennaeth- A message from the headteacher

Annwyl Rieni, Gwarcheidwaid a Chyfeillion,

Mae'n fraint ac yn bleser mawr eich croesawu i wefan newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd.

Ein gweledigaeth yw meithrin cymuned ysgol gynnes a chynhwysol sy’n cynnig profiadau addysgol cyfoethog, gan gofleidio ein Cymreictod ac anrhydeddu amrywiaeth ddiwylliannol ein cymuned.

Fel ysgol, ein hymrwymiad yw sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad at wybodaeth, profiadau a sgiliau a fydd yn eu paratoi’n dda ar gyfer camau nesaf eu bywydau.

Rydym yn disgwyl y safonau uchaf gan ein disgyblion ac yn gwneud ein gorau i’w cefnogi gyda chyfleoedd ac arweiniad cadarn. Cynigwn amrywiaeth eang o weithgareddau s'yn rhan annatod o ddiwylliant bywiog ein hysgol. Ein nod yw hyrwyddo llwyddiant ym mhob maes – boed hynny’n academaidd, cerddorol, diwylliannol neu chwaraeon – gan ddathlu llwyddiant pob unigolyn yn ôl ei ddiddordebau a’i dalentau.

Un o gryfderau sylfaenol ein hysgol yw’r ethos Cymreig a theg sydd gennym – cymuned gofalgar, agored a llawn llawenydd lle mae disgyblion yn teimlo’n ddiogel, yn hapus ac yn mwynhau eu haddysg.

Rydym yn anelu at wneud pob gwers yn brofiad dysgu difyr, ystyrlon ac ysbrydoledig drwy ddefnyddio cyd-destunau bywyd go iawn a dulliau creadigol.

Mae pob plentyn yn unigryw ac yn werthfawr, ac rydym yn rhoi’r unigolyn wrth galon popeth a wnawn. Mae’r egwyddor hon o barch tuag at bawb yn sail i ethos, gwerthoedd a llwyddiant Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd.

Mae addysgu plant yn gyfrifoldeb sylweddol ac yn fraint enfawr. Os ydych eisoes yn rhan o’n cymuned ysgol, diolch o galon am eich ymddiriedaeth. Os ydych yn ystyried ymuno â ni neu’n awyddus i wybod mwy, mae croeso cynnes i chi gysylltu.

Rwy’n hynod falch i arwain yr ysgol Gymraeg uchelgeisiol a llwyddiannus hon, ac edrychaf ymlaen at gael eich croesawu i’r ysgol er mwyn i chi weld drosoch eich hun beth sydd gennym i’w gynnig i’ch plentyn.

Gyda dymuniadau gorau,

Catrin Coulthard

 

Dear Parents, Carers and Friends,

It gives me great pleasure to welcome you to the new website of Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd.

Our vision is to nurture a warm, inclusive school community where every child benefits from rich learning experiences, rooted in our Welsh identity and celebrating cultural diversity of Wales.

At our school, we are committed to providing all pupils with the knowledge, skills and opportunities they need to thrive in the next stages of their journey.

We hold high expectations for our learners and are dedicated to supporting them with the best possible guidance. A key part of school life here is the wide range of opportunities on offer, which contribute to our vibrant school culture. We are proud to promote success in academic, cultural, musical and sporting pursuits—celebrating every child’s individual talents and passions.

A real strength of our school is its Welsh and inclusive ethos—a caring, welcoming and happy environment where children feel at ease and enjoy their education.

We work hard to make learning fun, meaningful and engaging by using real-life contexts to bring our lessons to life.

Each child is valued not only as an individual, but also as a vital part of the Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd family. Respect for the individual sits at the heart of everything we do and underpins our school’s values and success.

Our pupils take pride in their school, in their Welsh heritage and in their bilingual abilities. They are well-equipped to make a positive contribution to the multilingual and multicultural communities of Betws, Bridgend, Wales and beyond.

Educating children is both a profound responsibility and a genuine privilege. If your child is already with us, thank you for entrusting us with that responsibility. If you are considering joining our school community or would like more information, please don’t hesitate to contact us.

It is a privilege to lead such a successful and forward-thinking Welsh-medium school, and I would be delighted to welcome you in person and show you what we can offer your child.

Warmest and kindest regards,

Catrin Coulthard