Llais y Dysgwyr - Pupils Voice
Rydym yn falch iawn o'n cynghorau, ein Senedd a'r gwaith rydym yn gwneud gyda'n dysgwyr yn Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd. Credwn yn gryf bod llais ein dysgwyr yn holl bwysig wrth i ni fireinio ar ein gweithdrefnau a'n systemau ysgol gyfan ac anelu i ddarparu'r gorau posib i'n dysgwyr.Caiff dysgwyr eu hannog i gymryd rolau sydd yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth a sgiliau cyfathreu trwy ymgeisio am un o'n chwech pwyllgorau dysgwyr. Yn wythnosol, mae gwahoddiad i ddysgwyr mynychu sesiwn Paned gyda'r Pennaeth lle mae cyfle i sgwrsio, rhannu syniadau a dweud eu dweud gyda Mrs Coulthard neu Miss Bartlett.
We are very proud of the work we do with our learners at Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd through our Senedd sub-Committees. We believe that pupils voice is vitally important as we continuously reflect on our school systems and procedures and strive to provide the best for each of our learners. Learners are encouraged to take on roles that allow them to develop leadership and communication skills by applying for roles in one of the six pupil committees. Learners are also invited to share their thoughts with Mrs Coulthard or Miss Bartlett during the weekly Paned gyda'r Pennaeth (cuppa with the Headteacher!).
Cynghorau Dysgwyr a Senedd
Mae gan ein hysgol chwe chyngor disgyblion, pob un yn chwarae rôl bwysig wrth wella'r ysgol. Mae'r cynghorau'n cyfarfod yn wythnosol i drafod syniadau a phrosiectau sy'n cyfrannu at ddatblygiad cadarnhaol. Mae gan bob cyngor gadeirydd a dirprwy gadeirydd, sy'n arwain y trafodaethau ac yn sicrhau bod lleisiau'r holl ddisgyblion yn cael eu clywed. Trwy'r cynghorau hyn, mae gan ddisgyblion lais cryf mewn penderfyniadau sy'n gwneud ein hysgol yn lle gwell i bawb.
Mae Senedd yr Ysgol yn cyfarfod â Mrs Coulthard unwaith bob hanner tymor. Yn ystod y cyfarfodydd hyn, maen nhw'n cyflwyno adborth, gwybodaeth ac awgrymiadau gan bob un o'r cynghorau. Mae hyn yn sicrhau bod syniadau'r disgyblion yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau pwysig i'r ysgol.
Pupil Councils and the Senedd
Our school has six pupil councils, each playing an important role in improving the school. The councils meet weekly to discuss ideas and projects that contribute to positive development. Each council has a chairman and a deputy chairman, who lead the discussions and ensure that the voices of all the pupils are heard. Through these councils, pupils have a strong voice in decisions that make our school a better place for everyone.
The School Senedd meets with Mrs Coulthard once every half term. During these meetings, they present feedback, information and suggestions from each of the councils. This ensures that the pupils' ideas are taken into account when making important decisions for the school.