Hanes ein hysgol - Our School's History
Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw 1986- 2019
Agorwyd : Medi 1986
Lleoliad : Cwmgarw, Pen-y-bont ar Ogwr
Pennaeth cyntaf : Mrs Ann Roberts Jones
Agorwyd Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw ym 1986 fel ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg gyntaf Cwm garw. Ei nod oedd darparu addysg Gymraeg i blant y fro, gan feithrin cariad at y Gymraeg a’i diwylliant.
Ysgol fach, gymunedol oedd hi, gyda chysylltiadau cryf â’r gymuned leol a mudiadau fel yr Urdd. Dros y blynyddoedd, tyfodd y niferoedd ac roedd hi’n ganolfan bwysig ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn y cymoedd.
Cewch ddysgu mwy am ein hanes a'n treftadaeth yma:
Opened : September 1986
Location : Pontycymmer, Bridgend
First Headteacher : Mrs Ann Roberts Jones
Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw opened in 1986 as the first Welsh-medium primary school in the Garw Valley. Its mission was to offer Welsh-language education to local children, fostering a love of the language and its culture.
It was a small, community-focused school with strong ties to the local area and organisations like the Urdd. Over the years, pupil numbers grew and the school became a key centre for promoting Welsh in the valleys.
You can learn more about our history and our heritage here:
“The Welsh School" by David JK Jones
A Child of the Valley, Part 3 by Ann Leitch
Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd 2019 - presennol (present)
Agorwyd : Ionawr 2019
Lleoliad : Betws- Pen-y-bont ar Ogwr
Erbyn 2019, roedd y galw am addysg Gymraeg wedi cynyddu’n sylweddol yn yr ardal. Roedd Ysgol Gymraeg Cwm Garw yn hen adeilad a heb y cyfleusterau modern oedd eu hangen ar gyfer y dyfodol. Cafwyd penderfyniad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i fuddsoddi mewn adeilad newydd sbon.
Adeiladwyd Ysgol Gynradd Calon y Cymoedd fel ysgol newydd i gymryd lle Cwm Garw. Mae’r ysgol yn cynnig cyfleusterau modern, gan gynnwys ystafelloedd dysgu eang, cyfarpar TGCh diweddar, ac ardaloedd chwarae diogel.
Yn ogystal yn 2020 agorodd yr ysgol dosbarth Pabi. Braint ac anrhydedd oedd agor y bas ar gyfer dysgwyr ASA. Dosbarth cyntaf yn y bwrdeistref i gynnig cyfleoedd i blant ein cymuned trwy gyfrwng y gymraeg. Mae hyn yn ymateb yn gref gyda'n arwyddair- Pob un yn cyfri- Pob un yn cyflawni.
Y Weledigaeth
Mae Calon y Cymoedd yn parhau i hybu’r Gymraeg, gan feithrin disgyblion hyderus, creadigol a chyfrifol sy’n barod i gyfrannu’n llawn i Gymru ddwyieithog ac i'r byd.
Opened : January 2019
Location : Bettws Bridgend
By 2019, the demand for Welsh-medium education in the area had grown considerably. The original Cwm Garw school building was outdated and lacked the modern facilities needed for the future. Bridgend County Borough Council decided to invest in a brand new facility.
Ysgol Gynradd Calon y Cymoedd was built to replace Cwm Garw. It offers modern classrooms, up-to-date IT resources, and safe play areas — all while maintaining the strong Welsh ethos and community spirit of its predecessor. We also were very privileged to open the first ASD base in Bridgend through the medium of Welsh. It is very important to us to provide this facility as our motto is everyone counts- everyone achieves.
The Vision
Calon y Cymoedd continues to promote the Welsh language, nurturing confident, creative, and responsible learners ready to contribute to a bilingual Wales and to the wider world.