ELSA
Beth yw ELSA?
Mae ELSA yn fenter a ddatblygwyd ac a gefnogir gan seicolegwyr addysg. Mae'n cydnabod bod dysgwyr yn dysgu'n well ac yn hapusach yn yr ysgol os eir i'r afael â'u hanghenion emosiynol hefyd.
Cyflwynir y rhan fwyaf o waith ELSA yn unigol, ond weithiau mae gwaith grŵp bach yn fwy priodol, yn enwedig ym meysydd sgiliau cymdeithasol a chyfeillgarwch. Mae sesiynau yn hwyl, rydym yn defnyddio amrywiaeth o weithgareddau ymarferol megis: gemau, chwarae rôl gyda phypedau neu weithgareddau therapiwtig fel ymwybyddiaeth ofalgar neu gelf a chrefft.
Cynhelir sesiynau ELSA yn ein 'ystafell Cwtch' sy'n darparu man tawel a diogel i'r dysgwyr deimlo ei fod yn cael ei gefnogi a'i feithrin.
Yn ELSA, ein nod yw darparu cymorth ar gyfer ystod eang o anghenion emosiynol:
Adnabod Emosiynau
Pryder
Hunanhyder
Sgiliau Cymdeithasol
Cyfeillgawrch
Dicter
Colled a phrofedigaeth
Sut mae ELSA yn gweithio?
Mae dysgwyr fel arfer yn cael eu cyfeirio ar gyfer cymorth ELSA gan eu hathro dosbarth neu'r CADY. Mae'r swyddog Lles hefyd yn monitro data Perma er mwyn penodi dysgwyr. Gyda nodau’r rhaglen mewn golwg rydym wedyn yn cynllunio sesiynau cymorth i gefnogi'r disgybl i ddatblygu sgiliau newydd a strategaethau ymdopi sy’n caniatáu iddynt reoli gofynion cymdeithasol ac emosiynol yn fwy effeithiol. Mae ein swyddog lles gyda chyfoeth o wybodaeth a phrofiad o weithio gyda dysgwyr mewn grŵp bach neu 1:1.
Anelwn i sefydlu perthynas gynnes, barchus gyda’r disgybl a darparu gofod myfyrio lle gallant rannu eu meddyliau a’u teimladau yn onest.
What is ELSA?
ELSA is an initiative developed and supported by educational psychologists. It recognises that learners learn better and are happier at school if their emotional needs are addressed.
Most ELSA work is delivered individually, but sometimes small group work is more appropriate, particularly in the areas of social skills and friendship. Sessions are fun, we use a variety of practical activities such as: games, role playing with puppets or therapeutic activities such as mindfulness or arts and crafts.
ELSA sessions are held in our 'Cwtch room' which provides a quiet and safe space for the learners to feel supported and nurtured.
With ELSA, we aim to provide support for a wide range of emotional needs:
Recognising Emotions
Anxiety
Self confidence
Social Skills
Friendship
Anger
Loss and Bereavement
How does ELSA work?
Learners are usually referred for ELSA support by their class teacher or the ALNCo. The Welfare officer also monitors Perma data in order to appoint learners. With the aims of the program in mind we then plan support sessions to support the learner to develop new skills and coping strategies that allow them to manage social and emotional demands more effectively. Our welfare officer has a wealth of knowledge and experience working with children in a small group or 1:1.
We aim to establish a warm, respectful relationship with the learner and provide a space for reflection where they can share their thoughts and feelings honestly.