Diogelu - Safeguarding
Mae gan Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd ddyletswydd fugeiliol tuag at ei disgyblion, mae’r ysgol yn chwarae rhan bwysig i atal camdriniaeth ac esgeulustod drwy greu a chynnal awyrgylch ddiogel i blant a phobl ifanc.
Mae pob aelod o staff yr ysgol hon yn gyfrifol am ddiogelu ac amddiffyn y plant sy’n ei mynychu. Os oes pryderon ynglŷn ag esgeulustra neu gam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol, yna mae’n ddyletswydd ar y staff, yn unol â Threfn Diogelu Plant y Sir, i sôn am y mater wrth Gyd-gysylltydd Diogelu Plant yr ysgol.
Gall Cyd-gysylltydd yr ysgol ymgynghori â chyd-weithwyr proffesiynol yn ogystal ag asiantaethau perthnasol megis y Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol. Yn dilyn y trafodaethau hyn, efallai y bydd rhaid i gyd-gysylltydd yr ysgol gyfeirio’r plentyn yn swyddogol i’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, yn unol â chanllawiau a phrotocol y Sir. Yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol sy’n penderfynu a oes angen gweithredu neu beidio.
Oblegid natur y cyhuddiadau, ni fydd bob amser yn briodol i drafod materion gyda’r rhieni cyn cyfeirio'r plentyn. Y Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Heddlu sy’n gyfrifol am ymchwilio i gyhuddiadau.
Mae’r ysgol yn dilyn Protocol Sir Pen-Y-Bont a cyhuddiad yn erbyn aelod o staff fe fyddai’r ysgol yn dilyn camau gweithredu’r Sir.
-
Swyddog Diogelu ac Amddiffyn Plant Dynodedig:
-
Mrs Coulthard
-
Miss Bartlett
-
Mrs Flower
-
Llywodraethwr Diogelu ac Amddiffyn Plant:
-
Mrs K Humphries
Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd has a pastoral duty towards its pupils, the school plays an important role in preventing abuse and neglect by creating and maintaining a safe environment for children and young people.
Every member of staff at this school is responsible for safeguarding and protecting the children who attend it. If there are concerns regarding neglect or physical, emotional or sexual abuse, then it is the duty of the staff, in accordance with the County's Child Safeguarding Procedure, to mention the matter to the school's Child Safeguarding Co-ordinator.
The school's Co-ordinator can consult with fellow professionals as well as relevant agencies such as Health and Social Services. Following these discussions, the school liaison may have to officially refer the child to the Social Services Department, in accordance with the County's guidelines and protocol. The Social Services Department decides whether action is necessary or not.
Because of the nature of the charges, it will not always be appropriate to discuss issues with the parents before referring the child. Social Services and the Police are responsible for investigating charges.
The school follows Bridgend County Protocol and a accusation against a member of staff would be followed by the County's actions.
Designated Child Protection and Safeguarding Officer:
-
Mrs Coulthard
-
Miss Bartlett
-
Mrs Flower
Child Protection and Protection Governor:
-
Mrs K Humphries