Ysgol Gymraeg Calon y Cymoedd

  • Search this websiteSearch Site
  • Translate the contents of this page Translate Page
  • Twitter Twitter
  • Facebook Facebook
  • Instagram Instagram
  • School Gateway School Gateway

Blwyddyn 4 a 5/ Year 4 and 5 - Spain presentation day: 

https://forms.gle/ZmgF219MAXVefh8o7 

 

Annwyl rieni a gwarcheidwaid

 

Yn dilyn llwyddiant ein taith eleni i Madrid,  rydym yn gyffrous iawn i gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid gan Taith Rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ar ôl ail-gais llwyddiannus.

 

Byddwn yn mynd â 19 o ddisgyblion a 4 o athrawon ar daith gyfnewid 5 diwrnod i ysgol Brydeinig Monfort ym Madrid, Sbaen ym mis Medi 2026. Bydd hwn yn gyfle anhygoel i’n disgyblion lle byddant yn datblygu eu hannibyniaeth a’u gwytnwch ynghyd â’u siarad Sbaeneg y byddant yn ei ddysgu ym mlwyddyn 5 a 6. Bydd yr ymweliad yn cael ei ariannu’n llawn gan Taith ac ni fydd cost i’r daith. 

 

Byddwn yn treulio diwrnodau yn yr ysgol ac yn ymweld ag atyniadau twristiaid a gweithgareddau hwyliog amrywiol eraill rydym yn siŵr y bydd y plant yn eu mwynhau. Nid oes gennym ragor o fanylion hyd yn hyn gan nad ydym wedi trefnu unrhyw beth oherwydd mae angen i ni wybod niferoedd pendant o blant a fydd yn mynychu. 

 

Fe fydd y daith hon yn cael ei hariannu'n llawn bydd costau teithio, llety a bwyd yn dod o dan y grant ac felly ni fydd yn rhaid i chi dalu i'ch plentyn fynychu. Beth rydym yn ei ofyn a oes gan eich plentyn ddiddordeb, eu bod yn creu cyflwyniad yn Gymraeg pam eu bod am ddod ar y daith hon. Hoffwn hefyd iddynt ymchwilio i Madrid a chyflwyno pa atyniadau hoffent ei weld a pham.  Gellir gwneud y cyflwyniad hwn ar bapur neu ar-lein ac mewn unrhyw ffurf y dymuna'r plant ei gyflwyno e.e. cyflwyniad PowerPoint, taflen maent wedi'i gwneud a.y.b.. 

Ddydd Llun y 13 eg o Hydref bydd y plant yn cyflwyno'r cyflwyniadau hyn maent wedi eu creu gartref i mi fy hun a Mrs Coulthard. Yna byddwn yn penderfynu pwy yw'r ymgeiswyr buddugol. Bydd llythyr yn cael ei anfon allan ar Ddydd Mawrth y 14 eg- 15ed o Hydref yn nodi os yw eich plentyn wedi bod yn llwyddiannus neu beidio i fynychu'r daith.




Diolch yn fawr, 

Miss Elin Morgan Cydlynydd Rhyngwladol

Mrs Catrin Coulthard Pennaeth



 

Dear Parents and careers, 

 

Following the success of this years Madrid trip we are excited to announce we have received funding from Taith Wales’ international exchange programme after a second successful application. 

We will be taking 19 pupils and 4 teachers on a 5-day exchange trip to the British Monfort School in Madrid, Spain in September 2026. This will be an incredible opportunity for our pupils, where they will develop their independence and resilience, along with their Spanish speaking skills which they will be learning in Years 5 and 6. The visit will be fully funded by Taith and there will be no cost for the trip. 

 

We will be visiting the school and exploring the area, visiting tourist attractions and other various fun activities that we are sure the children will enjoy.  We have no further details as yet as we have not booked anything because we need to know definite numbers of children that will be attending. 

 

As mentioned before this trip is fully funded the cost of travel, accommodation and food will be covered by the grant and therefore you will not have to pay for your child to attend. Your child will need a passport to be able to attend- we will need this information as soon as possible. 

 

What we do ask if your child is interested, they create a presentation in Welsh why they want to come on this trip and what attractions there are in Madrid and what they would like to see and why? This presentation can be completed on paper or online and in any form the children wish to present e.g a PowerPoint presentation, a leaflet they have made etc. On Monday the 13th of October the children will present these presentations they have created at home to myself and Mrs Coulthard. We will then decide on Tuesday the 14th of October who the successful applicants. A letter will be sent out between the 14- 15th of September stating if your child has been successful or not to attend the trip. 




Many thanks 

Miss Elin Morgan International Coordinator

Mrs Catrin Coulthard Headteacher